Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Thursday 28 June 2012

Gwobr Pensaernïaeth i’r Comisiwn Brenhinol





Dr Peter Wakelin, Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol, yn derbyn ei wobr yn seremoni Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd.


Mewn seremoni ym Mae Caerdydd ar 20 Mehefin cafodd Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol, Peter Wakelin, ei wneud yn Aelod er Anrhydedd o Gymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru am wasanaethau i gefnogi gwella pensaernïaeth. Meddai Andrew Sutton, Llywydd y Gymdeithas ‘Mae Peter wedi gweithio’n ddiflino i wneud y Comisiwn Brenhinol yn gorff mwy amlwg, grymus a hygyrch ac wedi ymdrechu i hybu gwasanaethau ar-lein, partneriaethau a gweithio ar y cyd.’ Yn ei araith dderbyn, tynnodd Peter sylw at bwysigrwydd cofnodi adeiladau.

Rydw i’n gwerthfawrogi’r anrhydedd hwn yn fawr ac mae’n bleser gennyf ei dderbyn mewn cydnabyddiaeth o waith y Comisiwn Brenhinol dros flynyddoedd lawer i sicrhau bod y dreftadaeth adeiledig yn cael ei chofnodi, ei deall, ei mwynhau a’i gwarchod. Rhaid i ni wneud yn siŵr y gallwn barhau â’r swyddogaeth hon.

Ni allaf wneud yn well na dyfynnu’r artist Falcon Hildred – Aelod er Anrhydedd arall o’r Gymdeithas – sydd wedi treulio ei oes yn cofnodi adeiladau sydd mewn perygl. Rydym ni wedi prynu ei archif gwych o fwy na 600 o luniadau i’r Cofnod Henebion Cenedlaethol gyda chymorth ariannol Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

‘Y peth am adeiladau yw eu bod nhw’n ymwneud â phobl. Mae popeth a wnawn mewn bywyd naill ai’n cael ei wneud mewn neu o gwmpas adeiladau. Byddwn yn dathlu, yn addysgu, yn byw, yn gweithio, yn gwella, yn cystadlu, yn storio – byddwn yn gwneud popeth mewn neu o gwmpas adeiladau, ac maen nhw felly yn ymgorffori ein holl anghenion, ein holl obeithion, ein credoau, ein hofnau. Nhw yw symbolau ein gwerthoedd, o’r bwthyn i’r eglwys gadeiriol, symbolau’r hyn sydd ei eisiau arnom a’r hyn a gredwn. Felly y perygl ydyw, pan ddinistriwn adeilad, ein bod ni hefyd yn dinistrio rhyw elfen ohonom ni ein hunain.’

Dyna’r rheswm dros gofnodi a mawrygu pensaernïaeth. Diolch i chi am anrhydeddu ein gwaith.


Adain Gymreig corff proffesiynol y penseiri, Sefydliad Brenhinol Penseiri Prydain, yw Cymdeithas Frenhinol y Penseiri yng Nghymru. Yn ystod yr un digwyddiad, rhoddodd Huw Lewis AC, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Llywodraeth Cymru, araith am bwysigrwydd dylunio da a chyflwynwyd gwobrau i brosiectau pensaernïol diweddar, gan gynnwys canolfan gofal canser Maggie yn Abertawe a’r Coleg Brenhinol Cerdd a Drama newydd. Rhoddwyd Aelodaeth er Anrhydedd hefyd i Anthony Kleinburg ac i’r cynhyrchydd teledu Gwenda Griffith, a fu’n gweithio gyda’r Comisiwn Brenhinol ar y gyfres arloesol Cartrefi Cefn Gwlad Cymru i S4C.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

S
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails