Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Wednesday 30 May 2012

Gŵyl Y Gelli Cymru, 31 Mai - 10 Mehefin, 2012





Castell y Gelli o’r dref
Bydd gan y Comisiwn Brenhinol bresenoldeb cryf yng Ngŵyl y Gelli eleni o 31 Mai hyd 10 Mehefin 2012. Bydd staff wrth law drwy gydol yr ŵyl ar stondin Hanes Cymru – History Wales ar faes yr ŵyl. Yn ystod yr ŵyl bydd llyfr mawr diweddaraf Cadw, sy’n cynnwys llu o luniau, yn cael ei lansio, a bydd darlith gan Richard Suggett ar Ddydd Iau, 7 Mehefin: O Gastell Cricieth i Bennarth-fawr: Mawrygu Beirdd a Seiri Diwedd yr Oesoedd Canol yng Nghymru.

Hefyd, bydd y Comisiwn Brenhinol yn trefnu arddangosfa yng Nghastell y Gelli, gan fanteisio ar adnoddau Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Bydd yr arddangosfa ym Mhorthdy’r Castell (siop y Nepal Bazaar gynt) am gyfnod yr Ŵyl. Daeth Castell y Gelli yn eiddo i Ymddiriedolaeth Castell y Gelli yn 2011. Elusen yw’r Ymddiriedolaeth a ffurfiwyd i ddiogelu’r adeilad rhestredig Gradd I hwn ac i sefydlu canolfan ddiwylliannol newydd. Mae’r Comisiwn yn rhoi cyngor ar ddehongli Tŷ’r Castell, y plasty tri llawr a adeiladwyd ochr yn ochr â’r gorthwr castell o’r ddeuddegfed ganrif. Y gred oedd bod Tŷ’r Castell yn dŷ o gyfnod yr Adferiad a rhoddwyd dyddiad o 1660 iddo. Ond ar ôl edrych o’r newydd ar y manylion pensaernïol credir bellach iddo gael ei godi cyn y Rhyfel Cartref, yn ystod teyrnasiad Siarl I o bosibl. Yn gynharach eleni cymerwyd samplau o’r coed gwreiddiol a oedd wedi goroesi ar ôl dau dân yn yr ugeinfed ganrif i ddadansoddi’r blwyddgylchau a darganfod eu hoedran. Gobeithir y bydd y canlyniadau ar gael mewn pryd ar gyfer Gŵyl y Gelli pan fydd Richard Suggett, ar 5 Mehefin, yn arwain teithiau anffurfiol drwy’r Castell am 12 a 2pm.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales

Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails