Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Wednesday 9 May 2012

Gwneud Arolwg o Gaerau Cynhanesyddol yn Solfach, Sir Benfro





Golwg o’r Awyr o Gaer Bentir Gribin, NPRN: 94269, AP_2006_3342
Yr wythnos ddiwethaf, bu Louise Barker, un o ymchwilwyr y Comisiwn Brenhinol, a Sophie Gingell, sydd ar Leoliad Hyfforddi fel Archaeolegydd Cymunedol dan nawdd Cyngor Archaeoleg Prydain, yn gwneud arolwg archaeolegol o ddwy gaer gynhanesyddol yn Solfach, ger Tyddewi yn sir Benfro. Mae’r ddwy gaer, sy’n dyddio o’r Oes Haearn mae’n debyg, wedi’u lleoli ar gefnen greigiog gul o’r enw Gribin sy’n edrych dros harbwr Solfach. Mewn gwirionedd, mae yna dair caer gynhanesyddol ar y gefnen hon, i gyd o fewn 900m i’w gilydd (SM82SW). Cafodd yr arolygon archaeolegol eu cynnal ar ôl derbyn cais gan Peter Crane, archaeolegydd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Y safle cyntaf a arolygwyd oedd y gaer bentir ym mhen y gefnen, safle adnabyddus y cliriwyd y llystyfiant ohono’n ddiweddar. Ar y llaw arall, nid yw’r ail gaer a arolygwyd, sy’n 500m i’r Gogledd-Ddwyrain, erioed wedi cael ei chofnodi na’i dogfennu yng Nghofnod yr Amgylchedd Hanesyddol, felly mae hwn yn ddarganfyddiad newydd a chyffrous. Mae’r llystyfiant wedi’i glirio bellach, ac mae nodweddion y gaer gefnen hon i’w gweld yn glir. Yn eu plith ceir rhagfur gogleddol a llwyfannau cytiau niferus sy’n agos iawn at ei gilydd.

Golwg o’r Awyr o Gaer Bentir Gribin, NPRN: 410450, AP_2006_3342



Mae’r ddau safle wedi’u lleoli ar dir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac mae cerddwyr sy’n dymuno darganfod yr ardal yn gallu eu cyrraedd yn hawdd. Bydd canlyniadau’r arolygon hyn ar gael drwy Coflein cyn bo hir, a bydd yr arolwg o’r gaer sydd newydd ei chofnodi yn cael ei anfon i’r Arolwg Ordnans hefyd fel y gall gynnwys y safle ar ei fapiau. Hoffem ddiolch i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am roi caniatâd i wneud y gwaith.


Defnyddio cyfarpar System Lleoli Byd-Eang (GPS) i wneud arolwg

Gwybodaeth bellach:

Manylion y safle ar Coflein:
Caer bentir Gribin
Caer gefnen Gribin
Lloc amddiffynnol Gribin



Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails