Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Tuesday 22 May 2012

Arddangosfa Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru - Amgueddfa Ceredigion






Y tu mewn i Dŷ Nantclwyd, Rhuthun, 1954, NPRN: 27555


Mae’r paratoadau terfynol yn cael eu gwneud ar gyfer agoriad yr arddangosfa Y Tu Mewn i Gartrefi Cymru yn Amgueddfa Ceredigion yr wythnos hon.

Bydd yr arddangosfa’n rhoi cipolwg ar du mewn cartrefi Cymru dros gyfnod maith o amser, gan ddefnyddio delweddau wedi’u hatgynhyrchu o negatifau a phrintiau a gedwir yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru (archif y Comisiwn) yn Aberystwyth. Bydd y delweddau’n dangos cartrefi Cymru ar hyd yr oesoedd, o fythynnod tlawd i blastai gwledig crand, a byddant yn cael eu harddangos ochr yn ochr ag eitemau o gasgliadau helaeth Amgueddfa Ceredigion o wrthrychau a deunyddiau domestig.

Cynhelir arddangosiad preifat ar Ddydd Gwener 25 Mai, a bydd yr arddangosfa ar agor i’r cyhoedd o Ddydd Sadwrn 26 Mai hyd Ddydd Sadwrn 7 Gorffennaf. Byddwn yn rhoi sgwrs oriel yn yr amgueddfa ar 1 Mehefin am 1pm, ac yn cynnal digwyddiad Casgliad y Werin ar 7 Gorffennaf pryd y gwahoddir y cyhoedd i ddod â’u gwrthrychau, eu ffotograffau a’u storïau eu hunain er mwyn darganfod, dysgu, cyfrannu a rhannu eu stori hwy am Gymru gyda’r byd.

Ewch i wefan yr amgueddfa i gael mwy o fanylion a’i hamserau agor.

Bydd yr arddangosfa’n mynd ar daith i leoliadau eraill yng Nghymru yn 2012 a 2013. Ewch i’n gwefan i ddarganfod ble y gallwch ei gweld.

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales


Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails