Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Friday 10 February 2012

Swydd Swyddog Gweithgarwch (Cymru) – Prosiect Cymru o’r Awyr





Swydd Swyddog Gweithgarwch (Cymru) – Prosiect Cymru o’r Awyr

Mae Casgliad Aerofilms yn cynnwys dros filiwn o awyrluniau sy’n dyddio o 1919 tan 2006. Fe’i crëwyd gan y cwmni arloesol Aerofilms Cyf, a dyma’r casgliad archifol pwysicaf o’i fath. Ceir ynddo luniau unigryw sy’n dangos sut y newidiodd pryd a gwedd Prydain yn ystod yr 20fed ganrif. Prynwyd y Casgliad gan English Heritage a’i bartneriaid, Comisiynau Brenhinol Henebion Cymru a’r Alban, yn 2007.


Cefnogir prosiect Prydain oddi Uchod gan y Loteri Genedlaethol drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri a bydd yn trefnu i ryw 95,000 o luniau o’r Casgliad, sy’n dyddio o 1919 tan 1953, fod yn hygyrch.

Bydd y Tîm Gweithgarwch yn gyfrifol am reoli a chyflawni llinyn gweithgarwch y prosiect, sy’n cynnwys 16 o brosiectau cymunedol, i ategu rhaglen o wirfoddoli rhithiwr, creu ac ymgorffori adnoddau addysgol o amgylch y Casgliad, a chyflawni rhaglen o gynnal arddangosfeydd.

Bydd y tîm yn cynnwys

Arweinydd y Tîm Gweithgarwch a fydd â’i swyddfa yn English Heritage yn Swindon

Swyddog Gweithgarwch (Cymru) a fydd â’i swyddfa yn y Comisiwn yn Aberystwyth

Swyddog Gweithgarwch (Lloegr) a fydd â’i swyddfa yn English Heritage yn Swindon

Swyddog Gweithgarwch (Yr Alban) a fydd â’i swyddfa yn y Comisiwn yng Nghaeredin

Swyddog Cymorth Gweithgarwch a fydd â’i swyddfa yn English Heritage yn Swindon.


I gael holl fanylion y swyddi hyn, ewch i:

www.english-heritage.org.uk/about/jobs


Y dyddiadau cau i geisiadau am bob swydd: dydd Sul 19eg Chwefror 2012

Cyfwelir ar gyfer swydd Swyddog Gweithgarwch (Cymru): dydd Gwener 16eg Mawrth 2012



Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails