Posts Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts      All Comments Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts     Cymraeg

Tuesday 14 February 2012

Sioe ‘Who do you think you are? Live’ 2012 Ble oedd ein cyndeidiau’n byw, yn gweithio ac yn addoli yng Nghymru?






Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd staff y Comisiwn Brenhinol yn ymweld ag Olympia yn Llundain i gymryd rhan yn sioe hanes teulu fwyaf y byd. Yno, o dan un to, fe gewch hyd i arbenigwyr blaenllaw ym maes achyddiaeth, sesiynau un i un, gweithdai gwybodaeth a thros 150 o arddangosfeydd sy’n arbenigo ym maes ymchwilio i’ch coeden deuluol. Bydd seren Eastenders, Larry Lamb, y cyflwynydd teledu, Richard Madeley, ac actores Silent Witness, Emily Fox, ymhlith y sêr a fydd yn dod i’r sioe – ynghyd ag arbenigwyr o’r Comisiwn Brenhinol!


Bydd y Comisiwn Brenhinol wedi’i leoli ar stondin 307 (nesaf at Lyfrgell Genedlaethol Cymru), a bydd staff wrth law yno am dridiau i ateb ymholiadau ac i ddangos i’r cyhoedd sut i ddefnyddio Coflein, ein cronfa ddata ar-lein, a sut i gael gafael ar wybodaeth o’n harchifau, sef Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd, mae bron i ddwy filiwn o ffotograffau a miloedd o ddarluniau, arolygon, adroddiadau a mapiau yn y Cofnod hwnnw. Drwy gydol dydd Sadwrn 25 a dydd Sul 26 Chwefror, bydd arbenigwr adeiladau’r Comisiwn Brenhinol, Richard Suggett, awdur Cyflwyno Cartrefi Cefn Gwlad Cymru, yn cynnal cymorthfeydd am ddim am hanesion tai. Mae croeso i chi ddod ag unrhyw ffotograffau o adeiladau neu gopïau o hanesion tai i’w dehongli neu i gael cyngor arnynt. Mae croeso i bawb. Bydd holl gyhoeddiadau cyfredol y Comisiwn Brenhinol ar gael i’w prynu, gan gynnwys Cyflwyno Cartrefi Cefn Gwlad Cymru. Bydd Richard yn fwy na pharod i lofnodi’ch copi chi. Bydd gostyngiad arbennig o 10% ar yr holl gyhoeddiadau yn y sioe.

Gallwch archebu tocynnau ar gyfer y sioe drwy ffonio 0844 873 7330 neu drwy fynd i www.whodoyouthinkyouarelive.co.uk. Yno, cewch hyd i’r holl newyddion diweddaraf, ynghyd â chystadlaethau a chynigion gwych. Mae’n addo bod yn ddiwrnod da!

Tanysgrifiwch i Newyddion Treftadaeth Cymru a chofrestrwch ar gyfer yr RSS porthiant llawn: cliciwch y botwm RSS hwn Subscribe to Heritage of Wales News Blog Posts a thanysgrifiwch!

Rydym hefyd ar gael ar: Facebook Twitter Flickr
Twitter Hashtag: #RCAHMWales
Share this post:

0 comments:

Post a Comment

www.rcahmw.gov.uk
Please comment and let us know your views or your news. Remember that what you write can be read by everyone. RCAHMW reserves the right not to publish offensive or inaccurate material.

LinkWithin

Related Posts with Thumbnails